P-06-1216 Lleihau’r costau ar gyfer prawf PCR yng Nghymru i’r rhai sy’n dychwelyd o wyliau tramor a rhoi terfyn ar hunanynysu i’r rhai sydd wedi cael y brechlyn
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jonathan Thomas, ar ôl casglu cyfanswm o 203 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae'r costau ar gyfer profion PCR yng Nghymru yn uchel o'u cymharu â gweddill y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu profi drwy'r GIG, ond yng ngweddill y DU gallwch gael prawf preifat.
Mae hefyd yn ofynnol i chi hunanynysu ar ôl dychwelyd o wyliau tramor, hyd yn oed os ydych chi wedi cael dau ddos o’r brechlyn neu wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif. Nid oes prawf ar gyfer rhyddhau yn gynnar. Dylem roi terfyn ar hunanynysu i’r rhai sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn a rhoi terfyn ar ofynion profi i’r rhai sy’n teithio dramor.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Sicrhewch fod Cymru’n gweithredu’n unol â Lloegr. Mae nifer yr achosion a heintiau’n is yma.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Dwyrain Abertawe
· Gorllewin De Cymru